Whitney Houston
Cantores, cyfansoddwraig, actores, cynhyrchydd recordiau a model ffasiwn Americanaidd oedd Whitney Elizabeth Houston (9 Awst 1963 – 11 Chwefror 2012). Dechreuodd Houston gael enwogrwydd rhyngwladol yng nghanol y 1980au ac arweiniodd ei llwyddiant hi at fenywod Affricanaidd-Americanaidd eraill yn llwyddo ym myd cerddoriaeth pop a ffilmiau. Cyfeirir ati weithiau fel "Y Llais", ac mae'n adnabyddus am ei "powerful, penetrating pop-gospel voice".Yn ystod y 1980au, Houston oedd un o'r artistiaid Africanaidd-Americanaidd cyntaf i ymddangos yn rheolaidd ar MTV, pan oedd y sianel yn dueddol o ddangos llawer mwy o gerddoriaeth roc gan ddynion gwynion. Ei halbwm cyntaf oedd yr albwm cyntaf i werthu fwyaf gan artist unigol, gan werthu dros 25 miliwn o gopïau yn fyd-eang. Aeth ei hail albwm yn syth i rif un y Billboard 200 a dyma oedd y tro cyntaf i artist benywaidd wneud hynny. Llwyddodd i gael saith rhif un yn olynol ar y siart Billboard Hot 100. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4
5
6
7